Deddf i wneud darpariaeth i’w gwneud yn ofynnol i Weinidogion y Goron ac eraill, wrth wneud penderfyniadau strategol ynghylch arfer eu swyddogaethau, ystyried pa mor ddymunol yw lleihau anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol; i ddiwygio a chysoni cyfraith cydraddoldeb ac ailddatgan y rhan fwyaf o’r deddfiadau sy’n ymwneud â gwahaniaethu ac aflonyddu sy’n gysylltiedig â nodweddion personol penodol; i alluogi rhai cyflogwyr i orfod cyhoeddi gwybodaeth am y gwahaniaethau mewn cyflog rhwng gweithwyr gwrywaidd a benywaidd; i wahardd erledigaeth mewn rhai amgylchiadau; i’w gwneud yn ofynnol i arfer rhai swyddogaethau ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu ac ymddygiad gwaharddedig arall; i alluogi dyletswyddau i gael eu gosod mewn perthynas ag arfer swyddogaethau caffael cyhoeddus; i gynyddu cyfle cyfartal; i ddiwygio’r gyfraith sy’n ymwneud â hawliau a chyfrifoldebau mewn perthnasoedd teuluol; ac at ddibenion cysylltiedig.

Rhannwch y Stori Hon, Dewiswch Eich Platfform!