Dathlu Cynhwysiant
Croeso i’n gofod dathlu!
Mae’r rhan yma o’r wefan yn ymwneud i gyd â rhoi sylw i’r straeon newyddion da ysbrydoledig sy’n digwydd ar draws ein sector ni. Bob dydd, mae partneriaid a sefydliadau – bach a mawr – yn gwneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fwy cynhwysol, ac rydyn ni eisiau cydnabod a dathlu hynny.
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Boed yn newid bach sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr, yn syniad newydd creadigol, neu’n brosiect sy’n helpu mwy o bobl i deimlo bod croeso iddyn nhw ac wedi’u cynnwys — mae eich stori chi’n bwysig. Drwy rannu beth sy’n gweithio, gallwn ysbrydoli pobl eraill a helpu i ledaenu arfer gwych ymhellach fyth.
Mae cymryd rhan yn hawdd. Gallwch ddweud wrthym ni am eich gwaith diweddar drwy gysylltu’n uniongyrchol, neu drwy lenwi ffurflen fer, syml ar wefan Symud at Gynhwysiant.
Barod i gael eich ysbrydoli? Edrychwch ar yr enghreifftiau gwych sydd eisoes wedi’u rhannu a gweld yr effaith gadarnhaol sy’n digwydd ar draws y sector. Wedyn ychwanegwch eich llais chi – oherwydd mae pob stori am lwyddiant yn helpu i’n symud ni i gyd ymlaen.
Straeon newyddion o bob cwr o’r sector
Isod mae cydnabyddiaeth o waith da sefydliadau, wedi’u rhannu yn ôl gwahanol bileri’r Fframwaith Symud at Gynhwysiant.


















