Rhagair gan y Prif Swyddogion Gweithredol

Mae cynghorau chwaraeon y gwledydd cartref yn unedig yn eu penderfyniad i sicrhau bod sefydliadau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn croesawu amrywiaeth yn llawn ac yn wirioneddol gynhwysol i bawb, ar bob lefel.

Fel rhan o’u cefnogaeth barhaus i bartneriaid, comisiynodd y cynghorau chwaraeon adolygiad cynhwysfawr o effeithiolrwydd y Safon Cydraddoldeb ar gyfer Chwaraeon wrth helpu sefydliadau i sbarduno newid pwrpasol.

Tynnodd yr adborth gan bartneriaid sylw at yr angen am fwy o help i adnabod a goresgyn y rhwystrau sy’n atal cyfranogiad y mae gwahanol bobl yn eu hwynebu, yn ogystal ag arweiniad a chefnogaeth ymarferol i greu prosesau, strwythurau a systemau a fydd yn hyrwyddo cynhwysiant cynaliadwy.

Mewn ymateb, mae’r Fframwaith Symud at Gynhwysiant wedi’i greu. Mae’r adnodd datblygu newydd, hyblyg yma’n canolbwyntio ar 5 piler allweddol yn ymwneud ag arweinyddiaeth, diwylliant, profiad, perthnasoedd a chyfathrebu. Bydd yn helpu sefydliadau, beth bynnag yw eu maint neu eu swyddogaeth, i herio a gwella eu harferion presennol drwy gylch parhaus o hunanadlewyrchu, cynllunio, gweithredu ac adolygu.

Mae’r cynghorau chwaraeon yn hyderus y bydd y Fframwaith newydd yn cael ei groesawu a’i fabwysiadu gan sefydliadau sydd wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth a gwella profiadau cadarnhaol y rhai sy’n arwain, yn llywodraethu, yn chwarae, yn hyfforddi, yn gweinyddu neu’n gwirfoddoli yn eu camp.

Sally Munday

Sally Munday

Prif Swyddog Gweithredol UK Sport

“Mae gan UK Sport genhadaeth i greu’r degawd mwyaf nodedig o eiliadau chwaraeon rhyfeddol; gan gyrraedd, ysbrydoli ac uno’r genedl. Mae’n hollbwysig i’n llwyddiant ni yn y dyfodol bod chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd yn gartref i dalent amrywiol ac eithriadol ein cenedl ni a bod pobl yn teimlo eu bod yn perthyn ac yn gallu ffynnu. Rydyn ni’n benderfynol o weld chwaraeon perfformiad uchel yn amgylchedd lle mai talent a gwaith caled yw’r unig ffactorau sy’n dylanwadu ar lwyddiant.

Rydyn ni’n cydnabod bod gennym ni waith i’w wneud o hyd, ac mae gweithio’n agos gyda chwaraeon a CRhC yn ganolog i’n galluogi ni i gyflawni’r uchelgais yma. Mae’r Fframwaith Symud at Gynhwysiant newydd a chyfnogaeth bwrpasol gan fentoriaid wedi’u hanelu at helpu ein partneriaid ni i ddeall a mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal cynhwysiant yn eu camp. Rydw i’n credu y bydd y broses hwyluso newydd hon o welliant parhaus yn ein helpu ni i ddarparu system chwaraeon sy’n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog cymdeithas y DU.”

Simon Hayes

Simon Hayes

Prif Swyddog Gweithredol Sport England

“Ers ei gyflwyno, mae Symud at Gynhwysiant wedi helpu sefydliadau o bob maint ar draws ein sector i gymryd camau ystyrlon tuag at greu amgylcheddau lle mae pawb yn teimlo’n gartrefol ac yn cael eu gwerthfawrogi.

Mae’r cynnydd calonogol hwn yn cyd-fynd yn agos â’n strategaeth hirdymor, Uno’r Mudiad, sy’n rhagweld cenedl lle gall pawb fwynhau manteision cadarnhaol cymryd rhan mewn chwaraeon a bod yn actif, dim ots beth yw eu cefndir.

Wrth i ni edrych ymlaen, rhaid i’n ffocws ni fod ar ddyfnhau’r effaith yma a datblygu’r fframwaith fel adnodd dysgu a chatalydd ar gyfer newid.

Ochr yn ochr â’r cynghorau chwaraeon eraill, byddwn yn adeiladu ar y momentwm sydd eisoes wedi’i greu, gan helpu ein partneriaid ni i fod yn fwy cynhwysol, yn wydnach ac yn gynrychioliadol o’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.”

Brian Davies OBE

Brian Davies OBE

Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru

“Mae gennym ni uchelgais gwirioneddol i greu cenedl lle mae gan bawb y cyfle i fwynhau chwaraeon am oes. Mae’r Fframwaith Symud at Gynhwysiant yn adnodd amhrisiadwy i bob un ohonom ni sy’n gweithredu o fewn y sector ar y siwrnai i gyflawni hyn. Rydw i’n annog ein holl bartneriaid ni i ymgysylltu â’r fframwaith, a cheisio arweiniad a chefnogaeth ar sut i gael y gorau ohono. Gyda’n gilydd gallwn wneud y gwelliannau y mae eu gwir angen, a gwelliannau hirddisgwyliedig, er mwyn cynyddu amrywiaeth a darparu profiadau cadarnhaol i bawb sy’n cymryd rhan.”

Brian Davies OBE

Forbes Dunlop

Prif Swyddog Gweithredol sportscotland

“Rydyn ni’n credu bod chwaraeon i bawb ac na ddylai neb gael ei eithrio rhag cymryd rhan. Ein nod ni yw bod cynhwysiant yn sail i bopeth rydyn ni’n ei wneud yn sportscotland a bydd lansio Symud at Gynhwysiant yn meithrin diwylliant sy’n goresgyn rhwystrau o ran cyfranogiad ac yn creu cyfleoedd i bawb ar draws y system chwaraeon.

Rydyn ni wedi ymrwymo i chwarae ein rhan i sicrhau bod ein partneriaid ehangach ni, gan gynnwys CRhCh, yn dechrau ar y siwrnai hon fel bod pawb sydd eisiau hynny yn gallu mwynhau manteision chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Drwy groesawu’r rhaglen Symud at Gynhwysiant, bydd y system chwaraeon yn grymuso clybiau, cymunedau ac unigolion i fod yn rhan o newid cadarnhaol a dod yn wirioneddol gynhwysol.”

Richard Archibald

Richard Archibald

Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Sport NI

“Mae cydraddoldeb a chynhwysiant wrth galon cynllun pum mlynedd Sport NI, The Power of Sport. Fel sefydliad, rydyn ni’n ymdrechu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau o fewn y sector chwaraeon a manteisio i’r eithaf ar bŵer chwaraeon i newid bywydau pawb mewn cymdeithas.

“Mae chwaraeon i bawb, dim ots beth yw eu hil, eu crefydd, eu rhywioldeb, eu rhywedd neu eu gallu. Mae’r Fframwaith Symud at Gynhwysiant yn adnodd hanfodol i’r sector wrth i ni weithio i oresgyn y rhwystrau sy’n atal cyfranogiad ac mae’n grymuso chwaraeon i roi prosesau, strwythurau a systemau ar waith i hyrwyddo cynhwysiant.”