Adnoddau a Chefnogaeth

Datganiad ar Gôd Ymarfer diweddarwyd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Yn dilyn y ffaith bod Cod Ymarfer Statudol diweddaratach y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer Gwasanaethau, Swyddogaethau Cyhoeddus a Chymdeithasau wedi dod i rym heddiw, rydym yn cyhoeddi’r datganiad canlynol.

“Ym 2021, cyhoeddodd y pum Cyngor Chwaraeon cenedlaethol – Sport England, Sport Wales, Sport Scotland, Sport Northern Ireland ac UK Sport – ganllawiau ar gyfer cynhwysiant pobl drawsryweddol mewn chwaraeon domestig. Mae’r pum Cyngor Chwaraeon wedi cytuno ei bod yn angenrheidiol adolygu’r canllawiau er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu’r cyd-destun cyfreithiol diweddaredig y mae chwaraeon yn gweithredu ynddo. Ar hyn o bryd, mae cwmpas, Cylch Gorchwyl ac amserlen yr adolygiad yn cael eu datblygu. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhannu unwaith y bydd y rhain wedi’u cytuno.”

Sylwch nad yw’r Cod Ymarfer hwn yn gymwys yng Ngogledd Iwerddon. Mae Comisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon yn gofyn i’r Uchel Lys egluro sut y dylid cymhwyso dyfarniad y Goruchaf Lys yng Ngogledd Iwerddon, o ystyried y fframwaith cyfraith cydraddoldeb gwahanol sydd yno, a goblygiadau Erthygl 2 Fframwaith Windsor ar gyfer sut y dylid dehongli’r gyfraith cydraddoldeb honno.

  • Y Gyfres Ddysgu 30 Munud – Deall Diwylliant mewn Chwaraeon

    April 2, 2026

  • Group of people smiling

    Datganiad 1 – Rydyn ni’n deall safbwynt ein gweithlu ar ddiwylliant y sefydliad a sut mae’n effeithio ar gynhwysiant.

    May 27, 2025

  • group of people reacing out hands

    Datganiad 2 – Rydyn ni’n creu amgylchedd diogel i alluogi lleisiau pawb i gael eu clywed, cael sylw, a bod yn sail i benderfyniadau.

    May 27, 2025

  • core values building blocks

    Datganiad 3 – Mae gennym ni ddull dim goddefgarwch o weithredu gydag unrhyw ymddygiad sy’n gwahaniaethu

    May 27, 2025

  • Child sat in front of football goals looking upset

    Datganiad 4 – Mae gennym ni brosesau yn eu lle i reoli bwlio, gwahaniaethu, aflonyddu ac ymddygiad negyddol yn effeithiol, a’u dileu.

    May 27, 2025

  • Amputee playing football

    Datganiad 5 – Mae ein sefydliad yn parchu amrywiaeth a gwerthoedd pob person fel unigolyn gyda nodweddion a chefndiroedd unigryw.

    May 27, 2025

  • animated characters

    Datganiad 6 – Rydyn ni wedi sefydlu gwerthoedd sy’n ddidwyll ac yn adlewyrchu ein dyheadau o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

    May 27, 2025

  • girl in swimming pool

    Datganiad 7 – Mae ein gwerthoedd a’n hymddygiad ni wedi’u hymgorffori yn ein diwylliant, ac yn meithrin cysylltiadau da rhwng pob person wrth gyflawni ein gweithgareddau

    May 27, 2025

  • amputee running on track

    Datganiad 8 – Mae gan ein harweinwyr yr ymwybyddiaeth a’r cymwyseddau i arwain newidiadau diwylliant cadarnhaol sy’n galluogi gwell amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y sefydliad

    May 27, 2025

  • recruitment image of people

    Datganiad 9 – Mae ein prosesau recriwtio yn mynd ati’n rhagweithiol i recriwtio pobl ag amrywiaeth o ran meddwl a chefndir, sydd ag agwedd, meddylfryd a dealltwriaeth gadarnhaol o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

    May 27, 2025

  • gentleman in a Judo gown

    Datganiad 10 – Mae gennym ni ddiwylliant o gael ein harwain gan wybodaeth, gwelliant parhaus, herio ein hunain yn gadarnhaol a dysgu.

    May 27, 2025

  • 2 men training for sports

    Datganiad 11 – Rydyn ni’n deall diwylliant (is-ddiwylliannau posibl) ein system ddarparu / amgylcheddau / cymuned (er enghraifft ar gyfer cymdeithasau rhanbarthol, rhwydweithiau clwb, trwyddedeion, is-gontractwyr, cyfleusterau)

    May 27, 2025

Ymwadiad

Cofiwch fod yr adnoddau sy’n cael eu rhannu ar y dudalen hon ar gael i’r cyhoedd. Er ein bod yn ymdrechu i rannu deunyddiau mewn amrywiaeth o fformatau hygyrch, efallai na fydd hynny bob amser yn bosib pan fydd y ddogfen/adnodd yn un allanol ac yn cael ei rhannu ar y wefan Symud at Gynhwysiant. Adnoddau i droi atynt i helpu i gefnogi eich taith at gynhwysiant yw’r adnoddau ar y dudalen hon – nid yw’r Cynghorau Chwaraeon yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y wybodaeth yn yr adnoddau hyn nac yn cymeradwyo’r sefydliadau neu’r unigolion sy’n eu creu.

Bydd y Cynghorau Chwaraeon yn ymdrechu i gyfieithu adnoddau i’r Gymraeg os yw’r cynnwys wedi cael ei greu gan y Cynghorau eu hunain. Gallwch chi ddefnyddio’r adnodd Recite Me ar y wefan i gael cymorth gydag unrhyw ddogfen neu adnodd allanol. Os oes angen cymorth pellach arnoch chi yn hyn o beth, defnyddiwch y botwm “Cysylltu” i ddarparu manylion penodol, a byddwn yn ymateb i’ch cais gyn gynted â phosib.