Adnoddau a Chefnogaeth

Datganiad ar Gôd Ymarfer diweddarwyd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Yn dilyn y ffaith bod Cod Ymarfer Statudol diweddaratach y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer Gwasanaethau, Swyddogaethau Cyhoeddus a Chymdeithasau wedi dod i rym heddiw, rydym yn cyhoeddi’r datganiad canlynol.

“Ym 2021, cyhoeddodd y pum Cyngor Chwaraeon cenedlaethol – Sport England, Sport Wales, Sport Scotland, Sport Northern Ireland ac UK Sport – ganllawiau ar gyfer cynhwysiant pobl drawsryweddol mewn chwaraeon domestig. Mae’r pum Cyngor Chwaraeon wedi cytuno ei bod yn angenrheidiol adolygu’r canllawiau er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu’r cyd-destun cyfreithiol diweddaredig y mae chwaraeon yn gweithredu ynddo. Ar hyn o bryd, mae cwmpas, Cylch Gorchwyl ac amserlen yr adolygiad yn cael eu datblygu. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhannu unwaith y bydd y rhain wedi’u cytuno.”

Sylwch nad yw’r Cod Ymarfer hwn yn gymwys yng Ngogledd Iwerddon. Mae Comisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon yn gofyn i’r Uchel Lys egluro sut y dylid cymhwyso dyfarniad y Goruchaf Lys yng Ngogledd Iwerddon, o ystyried y fframwaith cyfraith cydraddoldeb gwahanol sydd yno, a goblygiadau Erthygl 2 Fframwaith Windsor ar gyfer sut y dylid dehongli’r gyfraith cydraddoldeb honno.

  • Y Gyfres Ddysgu 30 Munud – Adeiladu Perthnasoedd Cryfach

    November 24, 2025

  • 2 men playing tennis

    Datganiad 1 – Rydyn ni’n gweithio’n dactegol gyda phartneriaid a’n maes dylanwad i arwain newid mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

    May 27, 2025

  • change written on wooden blocks

    Datganiad 2 – Rydyn ni’n herio sefydliadau / pobl yn ein maes dylanwad os byddwn yn dod yn ymwybodol o / yn dyst i arfer gwael.

    May 27, 2025

  • wheelchair on racing track

    Datganiad 3 – Rydyn ni’n darparu rhaglen ddysgu a datblygu ar draws ein maes dylanwad ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

    May 27, 2025

  • group of men with arms around eachother

    Datganiad 4 – Mae gennym ni restr rhanddeiliaid wedi’i sefydlu o bartneriaid allweddol sy’n galluogi gwell dealltwriaeth a chyrhaeddiad i mewn i grwpiau amrywiol penodol perthnasol a chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol.

    May 27, 2025

  • insight pack

    Datganiad 5 – Rydyn ni’n gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i greu datrysiadau ar y cyd â hwy i gyrraedd a chefnogi ein cynulleidfa darged o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol

    May 27, 2025

  • kids explain allyship

    Datganiad 6 – Rydyn ni’n ymgysylltu’n rhagweithiol â phartneriaid i gefnogi a hyrwyddo newid.

    May 27, 2025

  • integrating equality and diversity into procurement

    Datganiad 7 – Rydyn ni’n herio partneriaid sydd ddim yn cyd-fynd â’n gwerthoedd.

    May 27, 2025

  • group o women using exercise bikes

    Datganiad 8 – Rydyn ni’n hyrwyddo llwyddiant ein partneriaid ac yn ceisio dysgu oddi wrthynt fel rhan o’n siwrnai barhaus i wella.

    May 27, 2025

Ymwadiad

Cofiwch fod yr adnoddau sy’n cael eu rhannu ar y dudalen hon ar gael i’r cyhoedd. Er ein bod yn ymdrechu i rannu deunyddiau mewn amrywiaeth o fformatau hygyrch, efallai na fydd hynny bob amser yn bosib pan fydd y ddogfen/adnodd yn un allanol ac yn cael ei rhannu ar y wefan Symud at Gynhwysiant. Adnoddau i droi atynt i helpu i gefnogi eich taith at gynhwysiant yw’r adnoddau ar y dudalen hon – nid yw’r Cynghorau Chwaraeon yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y wybodaeth yn yr adnoddau hyn nac yn cymeradwyo’r sefydliadau neu’r unigolion sy’n eu creu.

Bydd y Cynghorau Chwaraeon yn ymdrechu i gyfieithu adnoddau i’r Gymraeg os yw’r cynnwys wedi cael ei greu gan y Cynghorau eu hunain. Gallwch chi ddefnyddio’r adnodd Recite Me ar y wefan i gael cymorth gydag unrhyw ddogfen neu adnodd allanol. Os oes angen cymorth pellach arnoch chi yn hyn o beth, defnyddiwch y botwm “Cysylltu” i ddarparu manylion penodol, a byddwn yn ymateb i’ch cais gyn gynted â phosib.