Adnoddau a Chefnogaeth
Efallai y bydd y fideo hwn yn fan cychwyn defnyddiol i sefydliadau sy’n ymgysylltu â’r Fframwaith Symud i Gynhwysiant o ddull hunangyfeiriedig. Mae’r fideo yn cynnwys gwybodaeth am bwy ddylai fod yn rhan o’ch sefydliad, pa bileri y gallech ystyried dechrau â nhw a’r gwahanol ddulliau y gallech eu cymryd yn dibynnu ar faint a chynhwysedd eich sefydliad.
Ymwadiad
Cofiwch fod yr adnoddau sy’n cael eu rhannu ar y dudalen hon ar gael i’r cyhoedd. Er ein bod yn ymdrechu i rannu deunyddiau mewn amrywiaeth o fformatau hygyrch, efallai na fydd hynny bob amser yn bosib pan fydd y ddogfen/adnodd yn un allanol ac yn cael ei rhannu ar y wefan Symud at Gynhwysiant. Adnoddau i droi atynt i helpu i gefnogi eich taith at gynhwysiant yw’r adnoddau ar y dudalen hon – nid yw’r Cynghorau Chwaraeon yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y wybodaeth yn yr adnoddau hyn nac yn cymeradwyo’r sefydliadau neu’r unigolion sy’n eu creu.
Bydd y Cynghorau Chwaraeon yn ymdrechu i gyfieithu adnoddau i’r Gymraeg os yw’r cynnwys wedi cael ei greu gan y Cynghorau eu hunain. Gallwch chi ddefnyddio’r adnodd Recite Me ar y wefan i gael cymorth gydag unrhyw ddogfen neu adnodd allanol. Os oes angen cymorth pellach arnoch chi yn hyn o beth, defnyddiwch y botwm “Cysylltu” i ddarparu manylion penodol, a byddwn yn ymateb i’ch cais gyn gynted â phosib.











