Cwrdd â’r Mentoriaid

Mae gan y Mentoriaid Symud at Gynhwysiant wybodaeth a dealltwriaeth fanwl o Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn cyd-destun chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig, grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a chymunedau ar y cyrion. Mae’r Mentoriaid hyn yn chwarae rhan allweddol wrth hwyluso, mentora a hyfforddi sefydliadau chwaraeon i wella eu harferion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn barhaus. Bydd y Mentoriaid yn cefnogi’r canlynol:

  • Helpu sefydliadau i adolygu eu taflen sgôr hunanadlewyrchu mewn ffordd ddiogel a gonest
  • dealltwriaeth o flaenoriaethau’r sefydliad yn dilyn hunanadlewyrchu
  • datblygu’r Cynllun Gwelliant Parhaus
  • cysylltiadau â chymorth allanol e.e., partneriaid cydraddoldeb, cymheiriaid, cymunedau arfer da.
  • trafodaethau grŵp a chymorth cymheiriaid

Bydd Cynghorau Chwaraeon y DU yn neilltuo Mentoriaid Symud at Gynhwysiant yn ôl eu disgresiwn.

Amanda Bennet

Amanda Bennett

Mae Amanda yn cael ei gyrru gan syniad syml: mae chwaraeon yn gweithio’n well pan fydd arweinyddiaeth, llywodraethu a chynhwysiant yn gweithio’n well. Sefydlodd FairPlay yn 2013, ac ers hynny mae wedi cefnogi sefydliadau sy’n ymwneud â chwaraeon, busnesau a’r sector elusennol i dyfu, i wella ac i arwain yn fwy cynhwysol. Mae ei gwaith wedi cynnwys partneriaethau â sefydliadau fel y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol, yr Uwch Gynghrair ac Undeb Rygbi a Phêl-droed Iwerddon.

Amanda yw awdur y Sports Governance Handbook a dylunydd y Rhaglen Datblygu Menywod ac Arweinyddiaeth, sy’n hynod boblogaidd. Mae pobl yn ymddiried ynddi am ei ffordd ymarferol a gonest, ac mae hi wedi gweithio gyda sefydliadau fel yr FA, Scottish Hockey a British Blind Sport. Ar hyd y daith, mae hi wedi cael sawl rôl ddylanwadol yn llywodraethu, gan gynnwys Cadeirydd Menywod a Chwaraeon Ewrop a Chadeirydd Grŵp Cydraddoldeb y Cyngor Chwaraeon.

Ochr yn ochr â rolau gwirfoddol gydag England Handball, Menywod y Saracens ac England Rugby, mae gan Amanda gysylltiadau dwfn â chwaraeon elitaidd o hyd. A hithau’n gyn faswr rhyngwladol i Gymru, chwaraeodd am ddegawd, gan gystadlu mewn dwy ornest Cwpan Rygbi’r Byd i Fenywod a mynd ymlaen i hyfforddi ar y lefel uchaf gyda Chymru a Lloegr. Erbyn hyn mae hi’n fentor i uwch arweinwyr a hyfforddwyr perfformiad uchel. Cafodd Amanda ei chyflwyno i Neuadd Enwogion Prifysgol Loughborough yn 2023 – ond mae ganddi fwy o ddiddordeb o lawer yn y dyfodol.

Louise Tideswell

Louise Tideswell

Mae Louise yn arwain Plan4Sport, ymgynghoriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a datblygu busnes sy’n gweithio yn y byd chwaraeon a thu hwnt. Mae hi’n gweithio gyda chyrff llywodraethu cenedlaethol, clybiau proffesiynol, yr Uwch Gynghrair a Chynghorau Chwaraeon y Gwledydd Cartref, ac mae hi hefyd yn cynghori sefydliadau masnachol a Sefydliad y Cyfarwyddwyr.

Mae Louise yn arbenigo mewn helpu sefydliadau i droi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhywbeth ymarferol sy’n cael ei wreiddio – gan alinio strategaeth, diwylliant a chyflenwi fel bod newid yn digwydd go iawn. Gyda blynyddoedd o brofiad o weithio o fewn cyrff llywodraethu ym maes chwaraeon, mae hi’n dod â safbwynt ymarferydd clir a di-lol.

Mae hi wedi bod yn ymwneud â’r Safon Cydraddoldeb ar gyfer Chwaraeon ers 2004 ac wedi cefnogi dros 250 o sefydliadau ledled y DU. Ymddiriedir yn Louise hefyd i gamu i mewn fel Prif Swyddog Gweithredol dros dro pan fydd ar sefydliadau angen sefydlogrwydd, arweinyddiaeth gref ac edrych o’r newydd ar ddiwylliant, a phan fydd angen arwain adolygiadau annibynnol sy’n sbarduno gwelliannau gwirioneddol.

Sanjay Bhandari

Sanjay Bhandari

Sanjay yw Cadeirydd Kick It Out, prif elusen pêl-droed Lloegr ar gynhwysiant, ac mae’n cael ei gydnabod yn eang fel awdurdod ar gynhwysiant. Mae’n sylwebydd cyhoeddus rheolaidd ac mae wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o lunio ymateb y byd pêl-droed i gam-drin ar-lein, gyda llawer o’i argymhellion i’w gweld yn y Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Mae Sanjay hefyd wedi rhoi tystiolaeth i’r Senedd ar lywodraethu yn y byd pêl-droed, pêl-droed menywod a gweithgarwch corfforol.

Ochr yn ochr â hyn, Sanjay yw Cadeirydd Athletic Ventures, menter ar y cyd rhwng UK Athletics, London Marathon Events a The Great Run Company, sy’n edrych ar ddulliau newydd o gyflwyno digwyddiadau mawr yn y DU. Mae hefyd yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol yr FA ar Gynhwysiant, ac mae wedi cael sawl rôl ar fyrddau yn y byd tennis a phêl-fasged.

Y tu hwnt i chwaraeon, Sanjay yw Cadeirydd y Satellite Applications Catapult, sy’n cefnogi arloesedd yn sector technoleg gofod y DU. Treuliodd flynyddoedd lawer fel Partner yn EY, lle arweiniodd lawer o waith ar gynhwysiant, a mwynhau gyrfa broffesiynol o 30 mlynedd yn cwmpasu’r gyfraith, technoleg ac arloesedd.

Jane Holdsworth

Jane Holdsworth

Mae Jane wedi treulio blynyddoedd lawer yn helpu sefydliadau yn y byd chwaraeon a thu hwnt i ddod yn fwy cynhwysol, croesawgar ac effeithiol. Mae hi wedi bod yn asesydd ar gyfer Safon Cydraddoldeb y DU: Fframwaith ar gyfer Chwaraeon ers 2006, ac roedd yn rhan o’r tîm a helpodd i adnewyddu’r safon wreiddiol i’r hyn a elwir bellach yn Symud i Gynhwysiant.

Gyda chefndir yn y sector elusennol a chyrff anllywodraethol rhyngwladol, mae gan Jane brofiad penodol sy’n ymwneud â rhywedd, anabledd ac iechyd meddwl. Mae hi hefyd wedi bod yn asesydd ar gyfer Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr ers 2006, gan gefnogi sefydliadau i wneud gwirfoddoli’n fwy hygyrch, cynhwysol ac effeithiol.

Mae gwaith ehangach Jane yn cwmpasu elusennau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau ffydd, lle mae hi wedi cefnogi arweinwyr drwy ddatblygu sefydliadol a mentora. Yn adnabyddus am ei harddull feddylgar a chefnogol, mae hi’n dod ag arbenigedd ym maes strategaeth, effaith, systemau ansawdd ac adeiladu partneriaethau. Mae hi’n credu’n angerddol bod cynhwysiant yn gweithio orau pan fydd pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu clywed a’u hannog i ddysgu.

Jo Ogogo

Jo Ogogo

Mae Jo yn ymgynghorydd profiadol ym maes Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant, gyda dros 15 mlynedd o brofiad o weithio ochr yn ochr â sefydliadau i greu newid ystyrlon a pharhaol. Mae hi’n angerddol am helpu timau i fabwysiadu dull clir llawn ffocws wrth ymdrin â chynhwysiant – dull sy’n cefnogi nodau sefydliadol yn ogystal â lles a thwf y bobl oddi mewn iddynt.

Mae gyrfa Jo yn cwmpasu’r sectorau milwrol, cyhoeddus a phreifat, gan roi persbectif eang iddi ac ymwybyddiaeth wirioneddol o’r byd go iawn. Mae’n credu’n gryf nad yw amgylcheddau cynhwysol yn digwydd ar eu pen eu hunain – maent yn cael eu hadeiladu’n fwriadol. Yn fwy na dim, mae hi wedi ymrwymo i fentora ac arwain sefydliadau drwy newid mewn ffordd sy’n teimlo’n ymarferol, yn gefnogol ac yn gyraeddadwy.

Y tu allan i’w gwaith ymgynghori, dydy Jo ddim yn aros yn llonydd yn hir iawn! Mae hi wrth ei bodd â chwaraeon, gan gynnwys pêl-droed, rasio cyrsiau rhwystrau a chodi pwysau, ac mae’n brysur iawn yn gwirfoddoli, yn siarad yn gyhoeddus ac yn ymgysylltu â chymunedau. Yn adnabyddus am ei hegni a’i chynhesrwydd ac am siarad yn onest ac yn uniongyrchol, mae Jo yn dod â chalon a momentwm i bopeth a wna.

Liz Davidson

Liz Davidson

Mae Liz wedi treulio ei gyrfa yn gweithio ar draws y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae hi’n credu’n gryf ym mhŵer chwaraeon i newid bywydau ac agor y drws at gyfleoedd i unigolion a chymunedau. Ar hyn o bryd mae hi’n Brif Swyddog Gweithredol Active Kent a Medway ac yn Aelod o Fwrdd Sefydliad Criced Cymunedol Caint.

Mae Liz yn dod â chyfoeth o brofiad o rolau cenedlaethol, arweinyddiaeth ac ymgynghori, gan gynnwys cyfnodau gyda Women in Sport a sawl corff llywodraethu cenedlaethol. Am bron i 20 mlynedd, mae hi hefyd wedi gweithio fel ymgynghorydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan gefnogi ystod eang o sefydliadau ar draws y sector i ddod yn fwy cynhwysol ac effeithiol.

Yn adnabyddus am ei harddull ddi-lol a’i brwdfrydedd gwirioneddol dros rôl ehangach chwaraeon mewn cymdeithas, mae Liz yn cyfuno arweinyddiaeth strategol â meddylfryd ‘pobl yn gyntaf’ – gan ganolbwyntio bob amser ar wneud gweithgarwch corfforol yn fwy hygyrch, ystyrlon a chynhwysol i bawb.

Natasha Mills

Natasha Mills

Mae Natasha yn dod â chyfuniad unigryw o arbenigeddau i’w gwaith, gyda’i chefndir fel gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cymwys a chofrestredig mewn chwaraeon elitaidd a phroffesiynol, a’i phrofiad fel hyfforddwr perfformiad personol, corfforaethol a gweithredol.

Mae hi’n eiriolwr angerddol dros gydraddoldeb, tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant, ac yn adnabyddus am ei ffordd gynhwysol o arwain a’i gallu i reoli rhaglenni sy’n arwain at newid diwylliannol go iawn. Nid yw Natasha yn ofni cwestiynu hen ragdybiaethau, ac mae hi’n dod â chynhesrwydd a hyder i sgyrsiau am gynhwysiant, lles a pherfformiad.

Gyda meddylfryd sy’n canolbwyntio ar y darlun mawr a set gref o werthoedd, mae Natasha yn cael ei chymell gan y nod o wneud gwahaniaeth go iawn – gan gefnogi unigolion a sefydliadau i ffynnu, i deimlo eu bod wedi’u cynnwys ac i berfformio hyd eithaf eu gallu. Mae hi’n cael ei hystyried yn eang fel rhywun sy’n gwneud newidiadau cadarnhaol ac sy’n dod ag egni, dealltwriaeth a phwrpas i bopeth a wna.

Trevor Smith

Trevor Smith

Mae Trevor wedi treulio blynyddoedd lawer yn gweithio fel eiriolwr ar draws y system chwaraeon. Mae’n cael ei arwain gan gred syml ond pwerus: dylai chwaraeon a gweithgarwch corfforol fod ar gyfer pawb, drwy’r amser, heb eithriad. Mae’n teimlo’n angerddol iawn am lythrennedd corfforol am oes, ac am y rôl y mae’n ei chwarae wrth helpu pobl i deimlo’n hyderus, bod y gallu ganddynt a’u bod yn cael eu cynnwys.

Mae ei waith yn cwmpasu lleoliadau cymunedol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan weithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau strategol i helpu i lunio dulliau mwy cynhwysol o ymdrin â chwaraeon a gweithgareddau. Ochr yn ochr â’i eiriolaeth, mae Trevor yn adnabyddus am yr empathi a’r gofal y mae’n eu dangos yn ei waith, gan greu mannau lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, eu cefnogi a’u hannog.

Yn hwylusydd ac yn fentor medrus, mae Trevor yn dod â phobl ynghyd, yn helpu i siapio syniadau ac yn cefnogi eraill i droi gwerthoedd cynhwysol yn arferion bob dydd. Mae ei ffordd o weithio’n feddylgar ac yn optimistaidd, ac wedi’i gwreiddio mewn ymrwymiad gwirioneddol i sicrhau bod croeso i bawb ym myd chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Dave Hardman

Dave Hardman

Mae Dave Hardman yn Rheolwr Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y Lawn Tennis Association (LTA), lle mae’n arwain gwaith i wneud tennis a phadel yn fwy cynhwysol, hygyrch a pherthnasol i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae’n rhoi ffocws ar fynd i’r afael ag anghydraddoldebau systemig a helpu i wneud yn siŵr bod cynhwysiant yn dod yn rhan o arferion bob dydd, nid rhywbeth ychwanegol.

Mae cefndir Dave yn cwmpasu chwaraeon cymunedol, cynhwysiant anabledd ac arwain rhaglenni cenedlaethol, ac mae wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o siapio mentrau sydd am sicrhau bod chwaraeon ar gael i bobl sy’n aml yn cael ei heithrio. Mae’n arbennig o angerddol am greu mannau lle mae pobl wir yn teimlo eu bod yn perthyn.

Ochr yn ochr â’i rôl gyda’r LTA, mae Dave yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau fel cyfarwyddwr anweithredol, cynghorydd a hyrwyddwr ar y bwrdd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan gefnogi arweinwyr i droi strategaeth yn weithredu. Mae hefyd yn fentor ar y rhaglen Symud i Gynhwysiant, sy’n adnabyddus am roi pwyslais ar ddealltwriaeth ac ymarferoldeb.

Mae Dave yn Aelod o Fwrdd Living Sport, y Bartneriaeth Weithredol ar gyfer Swydd Gaergrawnt a Peterborough, ac yn rhoi cyngor ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i Glwb Pêl-droed Crystal Palace.

Julie Robbins

Julie Robbins

Mae Julie Robbins (hi) wedi treulio dros 27 mlynedd yn gweithio i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn gwasanaethau cyhoeddus, ym maes datblygu cymunedol ac yn y sector chwaraeon cenedlaethol. Ar hyn o bryd, hi yw Pennaeth Cynhwysiant yr Youth Sport Trust, lle mae hi’n helpu i droi gwerthoedd cynhwysol yn gamau ymarferol, gan fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc.

Mae Julie yn adnabyddus am ei ffordd dawel a digynnwrf o weithio, sy’n rhoi pwyslais ar bobl ac yn cyfuno uniondeb, meddwl yn strategol a gofal gwirioneddol. Mae hi’n angerddol ynghylch adeiladu diwylliannau cynhwysol, cefnogi arweinwyr i arwain yn dda, a helpu sefydliadau i wneud newidiadau sy’n aros.

Ochr yn ochr â’i rôl, Julie yw Is-gadeirydd Grŵp Ymgynghorol Paddle UK ar Gynhwysiant. Mae hi hefyd yn mentora arweinwyr drwy raglenni cenedlaethol, ac yn siarad yn nigwyddiadau’r sector yn gyson. Mae hi’n cael ei pharchu’n fawr am ei harweinyddiaeth sy’n rhoi pwyslais ar werthoedd ac am ei hymrwymiad i degwch a chyfiawnder cymdeithasol.

Jo Pilgrim

Jo Pilgrim

Mae Jo yn arweinydd, yn hwylusydd ac yn gynghorydd strategol profiadol, gydag ymrwymiad cadarn i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant ym maes chwaraeon a gweithgarwch corfforol ac mewn lleoliadau cymunedol. Ar hyn o bryd, mae hi’n gweithio fel Pennaeth Twf yn British Rowing, lle mae hi’n arwain gwaith i gynyddu cyfranogiad a gwreiddio cynhwysiant, tegwch ac amrywiaeth ar bob lefel o’r gamp.

Dros y deg mlynedd diwethaf, mae Jo wedi gweithio’n agos gyda chyrff llywodraethu cenedlaethol, Cynghorau Chwaraeon, elusennau, mudiadau cymunedol, clybiau a phartneriaid addysg i helpu i greu amgylcheddau lle mae mwy o bobl yn teimlo eu bod yn perthyn. Arweiniodd ddatblygiad y fframwaith Symud i Gynhwysiant ac mae wedi gweithio ochr yn ochr â holl Gynghorau Chwaraeon y DU i helpu i’w gyflwyno, gan gryfhau arweinyddiaeth, diwylliant ac arferion cynhwysol ar draws y sector.

Ochr yn ochr â’i gwaith strategol, mae Jo yn hwylusydd ac yn fentor medrus, sy’n adnabyddus am greu mannau lle gall pobl gael sgyrsiau gonest, dysgu gyda’i gilydd a throi syniadau’n weithredu. Mae hi’n cael ei gwerthfawrogi am ei gallu i feithrin perthnasoedd cadarn, dod â phartneriaid ynghyd a helpu sefydliadau i ymdrin â materion cymhleth gyda hyder ac eglurder.

Chris Gibbons

Chris Gibbons

Chris Gibbons yw Cyfarwyddwr Inside Inclusion, ymgynghoriaeth cynhwysiant a gwrth-wahaniaethu. Mae gan Chris fwy na 15 mlynedd o brofiad yn gweithio ym meysydd amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant. Er bod ei gleientiaid yn cynrychioli ystod o sectorau yn y DU ac yn fyd-eang, daw llawer o’i brofiad o’r diwydiant chwaraeon ac, yn benodol, pêl droed ar lawr gwlad a phroffesiynol.