Adnoddau a Chefnogaeth

Datganiad ar Gôd Ymarfer diweddarwyd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Yn dilyn y ffaith bod Cod Ymarfer Statudol diweddaratach y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer Gwasanaethau, Swyddogaethau Cyhoeddus a Chymdeithasau wedi dod i rym heddiw, rydym yn cyhoeddi’r datganiad canlynol.

“Ym 2021, cyhoeddodd y pum Cyngor Chwaraeon cenedlaethol – Sport England, Sport Wales, Sport Scotland, Sport Northern Ireland ac UK Sport – ganllawiau ar gyfer cynhwysiant pobl drawsryweddol mewn chwaraeon domestig. Mae’r pum Cyngor Chwaraeon wedi cytuno ei bod yn angenrheidiol adolygu’r canllawiau er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu’r cyd-destun cyfreithiol diweddaredig y mae chwaraeon yn gweithredu ynddo. Ar hyn o bryd, mae cwmpas, Cylch Gorchwyl ac amserlen yr adolygiad yn cael eu datblygu. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhannu unwaith y bydd y rhain wedi’u cytuno.”

Sylwch nad yw’r Cod Ymarfer hwn yn gymwys yng Ngogledd Iwerddon. Mae Comisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon yn gofyn i’r Uchel Lys egluro sut y dylid cymhwyso dyfarniad y Goruchaf Lys yng Ngogledd Iwerddon, o ystyried y fframwaith cyfraith cydraddoldeb gwahanol sydd yno, a goblygiadau Erthygl 2 Fframwaith Windsor ar gyfer sut y dylid dehongli’r gyfraith cydraddoldeb honno.

Nothing Found

Ymwadiad

Cofiwch fod yr adnoddau sy’n cael eu rhannu ar y dudalen hon ar gael i’r cyhoedd. Er ein bod yn ymdrechu i rannu deunyddiau mewn amrywiaeth o fformatau hygyrch, efallai na fydd hynny bob amser yn bosib pan fydd y ddogfen/adnodd yn un allanol ac yn cael ei rhannu ar y wefan Symud at Gynhwysiant. Adnoddau i droi atynt i helpu i gefnogi eich taith at gynhwysiant yw’r adnoddau ar y dudalen hon – nid yw’r Cynghorau Chwaraeon yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y wybodaeth yn yr adnoddau hyn nac yn cymeradwyo’r sefydliadau neu’r unigolion sy’n eu creu.

Bydd y Cynghorau Chwaraeon yn ymdrechu i gyfieithu adnoddau i’r Gymraeg os yw’r cynnwys wedi cael ei greu gan y Cynghorau eu hunain. Gallwch chi ddefnyddio’r adnodd Recite Me ar y wefan i gael cymorth gydag unrhyw ddogfen neu adnodd allanol. Os oes angen cymorth pellach arnoch chi yn hyn o beth, defnyddiwch y botwm “Cysylltu” i ddarparu manylion penodol, a byddwn yn ymateb i’ch cais gyn gynted â phosib.