Adnoddau a Chefnogaeth

Datganiad ar Gôd Ymarfer diweddarwyd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Yn dilyn y ffaith bod Cod Ymarfer Statudol diweddaratach y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer Gwasanaethau, Swyddogaethau Cyhoeddus a Chymdeithasau wedi dod i rym heddiw, rydym yn cyhoeddi’r datganiad canlynol.

“Ym 2021, cyhoeddodd y pum Cyngor Chwaraeon cenedlaethol – Sport England, Sport Wales, Sport Scotland, Sport Northern Ireland ac UK Sport – ganllawiau ar gyfer cynhwysiant pobl drawsryweddol mewn chwaraeon domestig. Mae’r pum Cyngor Chwaraeon wedi cytuno ei bod yn angenrheidiol adolygu’r canllawiau er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu’r cyd-destun cyfreithiol diweddaredig y mae chwaraeon yn gweithredu ynddo. Ar hyn o bryd, mae cwmpas, Cylch Gorchwyl ac amserlen yr adolygiad yn cael eu datblygu. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhannu unwaith y bydd y rhain wedi’u cytuno.”

Sylwch nad yw’r Cod Ymarfer hwn yn gymwys yng Ngogledd Iwerddon. Mae Comisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon yn gofyn i’r Uchel Lys egluro sut y dylid cymhwyso dyfarniad y Goruchaf Lys yng Ngogledd Iwerddon, o ystyried y fframwaith cyfraith cydraddoldeb gwahanol sydd yno, a goblygiadau Erthygl 2 Fframwaith Windsor ar gyfer sut y dylid dehongli’r gyfraith cydraddoldeb honno.

  • Y Gyfres Ddysgu 30 Munud – Ymgysylltu a Gwrando ar Gymunedau Dan Wasanaeth

    March 3, 2026

  • group of girls celebrating

    Datganiad 1 – Rydyn ni’n deall proffil demograffig presennol y rhai sy’n defnyddio (cyfranogwyr, aelodau, athletwyr) ein gwasanaethau, ein darpariaeth a’n system gyflwyno, a sut mae hyn yn cymharu â’u cymuned briodol (e.e. cenedlaethol / rhanbarthol / sirol / cymuned leol)

    May 27, 2025

  • coach speaking to a group of girls

    Datganiad 2 – Rydyn ni’n deall proffil demograffig presennol y gweithlu sy’n darparu ac yn cefnogi’r ddarpariaeth (gan gynnwys hyfforddwyr, cyfarwyddwyr, gwyddonwyr chwaraeon, gwirfoddolwyr, swyddogion, is-gontractwyr ac ati) a sut mae hyn yn cymharu â’u cymuned briodol (e.e., Cenedlaethol / rhanbarthol / sirol / gymuned leol).

    May 27, 2025

  • group of women smiling at camera

    Datganiad 3 – Rydyn ni’n mabwysiadu tactegau i ymgysylltu ag unigolion a grwpiau o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol, a grwpiau ar y cyrion, ac yn gwrando arnynt.

    May 27, 2025

  • 2 women in a gym laughing

    Datganiad 4 – Rydyn ni’n deall ac yn hyrwyddo profiad cadarnhaol i bawb.

    May 27, 2025

  • a group playing paddleball

    Datganiad 5 – Rydyn ni’n deall y rhwystrau y mae grwpiau amrywiol penodol yn eu hwynebu wrth gael mynediad i’n darpariaeth a byddwn yn codi ymwybyddiaeth o’r rhain ar draws ein maes dylanwad.

    May 27, 2025

  • wheelchair racing

    Datganiad 6 – Mae gennym eglurder ynghylch yr hyn y mae ein sefydliad yn ei wneud, a’r rôl rydym yn ei chwarae o ran mynd i’r afael ag anghydraddoldebau.

    May 27, 2025

  • Teaching a young girl in a wheelchair badminton

    Datganiad 7 – Rydyn ni’n cyflwyno rhaglenni gweithredu cadarnhaol i roi sylw i anghydraddoldebau.

    May 27, 2025

  • gentleman swimming

    Datganiad 8 – Rydyn ni’n deall y rhyng-gysylltiad rhwng nodweddion gwarchodedig a phrofiad byw wrth ystyried cynllun rhaglenni, prosiectau, gweithgareddau e.e. amddifadedd ac anabledd.

    May 27, 2025

  • 2 women in gym exercising

    Datganiad 9 – Rydyn ni’n sicrhau ac yn cefnogi ein hamgylcheddau ‘darparu’ i fod yn agored, yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb.

    May 27, 2025

  • Young boy in wheelchair playing dodgeball

    Datganiad 10 – Rydyn ni’n creu cyfleoedd i wrando a dysgu ac yn defnyddio’r hyn a ddysgwn i wneud newidiadau sy’n arwain at arfer cynhwysol gwell.

    May 27, 2025

  • Group of people playing basketball with one in a wheelchair

    Datganiad 11 – Rydyn ni’n mesur effaith ein hymyriadau, ein rhaglenni, ein gweithredu cadarnhaol a’n dysgu o’r wybodaeth hon.

    May 27, 2025

Ymwadiad

Cofiwch fod yr adnoddau sy’n cael eu rhannu ar y dudalen hon ar gael i’r cyhoedd. Er ein bod yn ymdrechu i rannu deunyddiau mewn amrywiaeth o fformatau hygyrch, efallai na fydd hynny bob amser yn bosib pan fydd y ddogfen/adnodd yn un allanol ac yn cael ei rhannu ar y wefan Symud at Gynhwysiant. Adnoddau i droi atynt i helpu i gefnogi eich taith at gynhwysiant yw’r adnoddau ar y dudalen hon – nid yw’r Cynghorau Chwaraeon yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y wybodaeth yn yr adnoddau hyn nac yn cymeradwyo’r sefydliadau neu’r unigolion sy’n eu creu.

Bydd y Cynghorau Chwaraeon yn ymdrechu i gyfieithu adnoddau i’r Gymraeg os yw’r cynnwys wedi cael ei greu gan y Cynghorau eu hunain. Gallwch chi ddefnyddio’r adnodd Recite Me ar y wefan i gael cymorth gydag unrhyw ddogfen neu adnodd allanol. Os oes angen cymorth pellach arnoch chi yn hyn o beth, defnyddiwch y botwm “Cysylltu” i ddarparu manylion penodol, a byddwn yn ymateb i’ch cais gyn gynted â phosib.