Diwylliant
Mae diwylliant yn aml yn anniriaethol a gall fod y peth anoddaf i'w newid. Mae’r diwylliant yn cynnwys y tybiaethau, y gwerthoedd, y credoau a’r normau a rennir sy’n rheoli sut mae pobl yn ymddwyn yn ein sefydliad. Mae newid cynaliadwy mewn amrywiaeth a chynhwysiant yn gofyn am ddull sefydliad cyfan o weithredu a newid system sydd wedi'i wreiddio mewn egwyddorion diwylliannol cynhwysol. Y man cychwyn ar gyfer hyn yw ystyried diwylliant ein sefydliad. Defnyddio ein gwerthoedd i arwain egwyddorion, credoau ac ymddygiadau newydd, a ffyrdd newydd o weithio.
Dyhead Diwylliant:
Mae gwerthoedd yn cael eu hymgorffori a’u byw, ac yn arwain at ymddygiad cynhwysol cadarnhaol, credoau a rennir, a ffyrdd o weithio. Mae diwylliant cynhwysol a chroesawgar o fewn ein sefydliad lle mae pawb yn cael eu parchu, yn gallu bod yn pwy ydyn nhw, ac mae eu lleisiau’n cael eu clywed. Mae ymddygiad negyddol yn cael ei herio, ac rydym yn mynd i’r afael â gwahaniaethu.
Arweinyddiaeth
Mae amrywiaeth o ffyrdd y gallwn ni ddangos a chyflawni ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant drwy ein harweinyddiaeth a'n llywodraethu. Mae hyn yn cynnwys:
- cael y polisïau perthnasol yn eu lle.
- datblygu datganiadau allanol sy'n mynegi ymrwymiad i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau.
- ymgorffori canlyniadau cydraddoldeb o fewn strategaethau allweddol.
- sicrhau amrywiaeth o ran meddwl, atebolrwydd, a chynrychiolaeth o fewn eu strwythurau gwneud penderfyniadau.
Dyhead Arweinyddiaeth:
Mae cyfeiriad clir a llawn dyhead ar gyfer sut byddwn yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau ac yn cynnwys pawb yn rhagweithiol, gan sicrhau ein bod yn adlewyrchu ein cymuned / cymdeithas. Mae dulliau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wedi'u hymgorffori ac yn cael adnoddau ar draws gweledigaeth, cenhadaeth, strategaeth a chynlluniau ein sefydliad
Profiad
Mae’r piler hwn yn ystyried sut mae ein sefydliad yn gwneud gwahaniaeth i brofiad pawb sy’n defnyddio ein darpariaeth, ein system ddarparu, a’n hamgylchedd. Fel, ond nid yn unig, ein gweithgareddau cymunedol, ein digwyddiadau, ein clybiau, ein cyfleusterau, ein gwirfoddolwyr, ein llwybr talent, a’n cefnogaeth uniongyrchol fel Gwyddor Chwaraeon. Wedi'u hysgogi gan ddeall y rhwystrau y mae grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn eu hwynebu, defnyddir mentrau ac ymyriadau cadarnhaol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a chreu newid cynaliadwy. Defnyddir y ddealltwriaeth hon i wella profiad y cwsmer i'r rhai sy'n ei chael yn fwy anodd cael mynediad, mwynhau a chyflawni drwy chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Dyhead Profiad:
Mae profiad o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu drwy gyflwyno, rhaglenni, a phrosiectau dim ots beth yw cefndir unigolyn. Defnyddir camau gweithredu, mentrau ac ymyriadau cadarnhaol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a chreu cyfleoedd cynhwysol sy'n cael effaith gynaliadwy.
Perthynas
Er ei bod yn bwysig cyflawni cydraddoldeb ac amrywiaeth a gwella cynhwysiant yn fewnol yn ein hamgylcheddau sefydliadol a chyflawni, mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn dylanwadu ar newid ar gyfer cynhwysiant ac yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau ar draws ein system gyflawni ehangach, partneriaethau, a'r sector cyfan. Ni all un sefydliad wneud hyn ar ei ben ei hun. Mae hyn yn gofyn am ddull cefnogol a chydweithredol o weithredu, ond hefyd un o atebolrwydd a dylanwad.
Dyhead Perthnasoedd:
Mae'r sefydliad yn nodi perthnasoedd pwysig a'u cylch dylanwad yn dactegol. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth i ddylanwadu ar newid a datgloi atebion i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau. Mae'r sefydliad yn gweithredu fel model rôl i ddylanwadu ar eraill yn eu rhwydwaith ehangach a bydd yn cefnogi sefydliadau eraill i wella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Cyfathrebu
Mae’n hanfodol bod sefydliadau’n cyfathrebu’n effeithiol ymrwymiad, polisïau, gweithdrefnau a chynlluniau ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant yn fewnol ac yn allanol. Dylai pob aelod o gymdeithas allu gweld eu hunain yn cael eu cynnwys ac yn bwysig i'r sefydliad. Gall hyn gymryd amser i'w adeiladu, ond gall sefydliad gymryd camau rheolaidd i adeiladu naratif marchnata a chyfathrebu sy'n dangos amrywiaeth a chynhwysiant.
Dyhead Cyfathrebu:
Defnyddir marchnata a chyfathrebu yn rhagweithiol i fynd i'r afael â thangynrychiolaeth. Mae'r sefydliad yn cyfathrebu â phawb, a gall pawb weld eu hunain mewn perthynas â'r sefydliad neu weithgaredd.