Mae 90% o ysgolion Lloegr yn cynnig mynediad cyfartal bellach i ferched i bêl droed mewn gwersi Addysg Gorfforol. Ddydd Iau 20 Tachwedd 2025, fe wnaeth yr FA a Barclays ryddhau canfyddiadau’r arolwg blynyddol ‘Mynediad Cyfartal i Bêl Droed mewn Ysgolion’ – ac mae’r canlyniadau’n dangos cynnydd calonogol.

Ers 2020, mae nifer y merched sy’n mynychu ysgolion sydd â mynediad cyfartal wedi codi’n sylweddol i 2.6 miliwn (cynnydd o 31% ers 2020/21) gan ddangos momentwm gwirioneddol tuag at newid cymdeithasol hirdymor. Mae’r newid yma mewn galw a darpariaeth wedi cael ei sbarduno ar lawr gwlad mewn ysgolion drwy waith mwy na 300 o Arweinwyr Strategol ledled Lloegr. Eu rôl, sy’n cael ei chyllido gan Barclays, yw dylanwadu ar ysgolion a’u grymuso i ymgorffori mynediad cyfartal mewn ffyrdd sy’n ystyrlon ac yn gynaliadwy. Mae’r Youth Sport Trust yn recriwtio, yn gweithredu ac yn cefnogi’r rhwydwaith yma, gan sicrhau bod gan Arweinwyr Strategol y sgiliau, yr adnoddau a’r cydlynu cenedlaethol sydd eu hangen i sbarduno newid ar lefel leol.

Am ragor o wybodaeth cliciwch yma
I gael gwybod mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i ysgolion, ewch i www.girlsfootballinschools.org

Ysgolion yn Camu Ymlaen o ran Mynediad Cyfartal wrth i Ganlyniadau Arolwg 2025 Ddatgelu Cyfleoedd Cynyddol ar gyfer Pêl Droed Merched: https://www.englandfootball.com/articles/2025/Nov/20/equal-access-to-football-in-pe

Rhannwch y Stori Hon, Dewiswch Eich Platfform!