Mae Strength Academy Wales (SAW) yn gosod y meincnod ar gyfer codi pwysau cynhwysol, gan ystyried cynhwysiant o sawl lefel i gael gwared ar rwystrau a chreu cyfleoedd. Fel clwb ‘InSport’ Chwaraeon Anabledd Cymru, canolfan Special Olympics GB, a chyfleuster trwyddedig British Weightlifting, mae SAW yn cynnig hyfforddiant cryfder cynhwysol ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol drwy fentrau fel y canlynol:

  • Rhaglenni Anabledd – Hyfforddiant wedi’i deilwra, offer addasol, a llwybrau cystadlu ar gyfer unigolion sydd ag anableddau corfforol neu ddysgu.
  • Grymuso Merched a Genethod – Mae mentrau fel Us Girls, Raise the Bar Wales, a Ladies Strength Group yn creu gofod diogel i hybu cyfranogiad merched.
  • Rhaglen Heneiddio’n Dda – Yn cael ei chyllido gan Ymddiriedolaeth Iechyd y Bobl, mae’r fenter hon yn cefnogi pobl dros 60 oed i frwydro yn erbyn ynysu a dirywiad corfforol.
  • Codi Pŵer Anabledd i Ieuenctid – Yn cael ei chefnogi gan Grantiau Tesco a Vinci UK, mae’r fenter hon yn ehangu hyfforddiant ar gyfer codwyr pwysau ifanc anabl.
  • Rhaglen Cryfder Clefyd Parkinson – Yn cael ei chyllido gan Parkinson’s UK i gefnogi rheoli symptomau a symudedd.
  • Rhaglen Gofalwyr Di-dâl – Yn galluogi gofalwyr i gael mynediad at ffitrwydd a chymorth cymdeithasol.
  • Grŵp Cryfder Versus Arthritis – Yn helpu unigolion i reoli arthritis drwy hyfforddiant cryfder wedi’i deilwra.

Gallwch ddarllen mwy am yr holl weithgareddau gwych sydd ar gael drwy fynd i Dudalen Lles SAW

Rhannwch y Stori Hon, Dewiswch Eich Platfform!