Rhaid i BOB sefydliad gael polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant fel gofyniad gorfodol i gyflawni’r ddyletswydd gyfreithiol. Mae polisi a adolygwyd yn ddiweddar yn gwneud mwy na chyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol yn unig. Drwy ystyried amrywiaeth a chynhwysiant yn ogystal â chydraddoldeb, mae sefydliad yn fwy tebygol o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau.

Rhaid i’r polisi nodi dull dim goddefgarwch y sefydliad o ran bwlio, aflonyddu, gwahaniaethu, erledigaeth ac ymddygiad annerbyniol, a thanlinellu’r gofyniad i bob aelod o staff gyfrannu at greu diwylliant ac amgylchedd gweithlu sy’n enghreifftio urddas, cwrteisi, parch ac ystyriaeth i bawb.

Rhannwch y Stori Hon, Dewiswch Eich Platfform!