Argymhellir yn gryf bod gan bob sefydliad chwaraeon a gweithgarwch corfforol bolisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar waith. Mae gan lawer o sefydliadau bolisi Cydraddoldeb ar waith, ac efallai nad yw hwn wedi’i adolygu ers peth amser. Drwy ystyried amrywiaeth yn y polisi, rydym yn ystyried y gwahaniaethau unigryw rhwng pobl a chymunedau, a sut y gellir gwerthfawrogi a dathlu’r rhain. Rydym yn deall pwy nad yw’n cael ei gynrychioli a pham y gallai hyn fod yn wir. Mae polisi sydd hefyd yn cynnwys cynhwysiant, yn nodi ymrwymiadau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a thangynrychiolaeth trwy gamau cadarnhaol a rhagweithiol i gynnwys pobl neu grwpiau. Yn y dull hwn, mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwrando a’u gwerthfawrogi a’u cynnwys. Mae polisi sy’n ystyried cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn fwy tebygol o gefnogi sefydliad i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau.

Rhannwch y Stori Hon, Dewiswch Eich Platfform!