Mae Symud i Gynhwysiant yn rhaglen gefnogol newydd sy’n disodli’r ‘Safon Cydraddoldeb – Fframwaith ar gyfer Chwaraeon’ yn dilyn adolygiad ac ymgynghoriad â’r sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae’r rhaglen hon yn cael ei harwain gan Grŵp Cydraddoldeb y Cynghorau Chwaraeon (SCEG); gweithgor gyda chynrychiolaeth o bob Cyngor Chwaraeon yn y DU sy’n anelu at hyrwyddo a datblygu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae SCEG yn arwain datblygiad strategol a gweithrediad Symud i Gynhwysiant.



