Cwestiynau Trafod

  • Ydi ein gwerthoedd ni’n “fyw” o fewn y sefydliad bob dydd?
  • Ydyn ni’n hyrwyddo ac yn cyfathrebu ein gwerthoedd a’n hymddygiad disgwyliedig ar draws y sefydliad?
  • Oes gennym ni Godau Ymddygiad ar waith sy’n cyd-fynd â gwerthoedd ac ymddygiadau ein sefydliad?
  • Ydi ein gwerthoedd ni’n cael eu hystyried pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau, cynllunio gweithgareddau, recriwtio pobl newydd, darparu hyfforddiant ac ati?
  • Ydi pawb yn modelu ymddygiadau cadarnhaol yn unol â’n gwerthoedd, yn fewnol ac yn allanol? Er enghraifft, gyda chydweithwyr, partneriaid, contractwyr, rhanddeiliaid, clybiau.
  • Ydyn ni’n defnyddio ein gwerthoedd a’n hymddygiad disgwyliedig i’n hatgoffa, os gwelir ymddygiad negyddol?

Datrysiadau Cefnogol

Gwerthoedd sy’n gysylltiedig â recriwtio, sefydlu, meithrin tîm, cylchlythyrau, a’r broses reoli ac ati.

Gwerthoedd i’w gweld ar ddogfennaeth. Gwerthoedd blaen a chanol mewn gwaith bob dydd.

Adolygu, ac os oes angen, diwygio Codau Ymddygiad. Sicrhau bod pawb wedi darllen a chydnabod y rhain.

Rhoddir cydnabyddiaeth i unigolion sy’n rhagori wrth fyw’r gwerthoedd.

https://cms.barnardos.org.uk/sites/default/files/2021-07/EDI%20code%20of%20conduct%20for%20staff%20and%20volunteers.pdf

https://www.futures.co.uk/10-ways-to-embed-diversity-and-inclusion-into-your-recruitment-strategy/

http://www.bristol.ac.uk/hr/resourcing/additionalguidance/equality/

Rhannwch y Stori Hon, Dewiswch Eich Platfform!