Cwestiynau Trafod
- Ydyn ni wedi trafod hyn fel sefydliad gyda’r holl staff?
- Ydyn ni wedi nodi pa grwpiau sydd wedi’u heithrio o / nad ydynt yn ymgysylltu â’n chwaraeon neu’n darpariaeth?
- Oes gennym ni ganlyniadau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant sy’n ymwneud â mynd i’r afael ag anghydraddoldebau, cyrraedd grwpiau amrywiol penodol o bobl, a gwella’r profiad ar gyfer y grwpiau hyn sydd heb gynrychiolaeth ddigonol?
- Ydyn ni wedi cyfleu ein bwriad a’n rôl wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldebau?
- Ydyn ni’n hyderus ein bod yn cymryd y camau cadarnhaol sydd eu hangen i ystyried anghenion grwpiau amrywiol penodol o bobl ac i ddatblygu cyfleoedd i bawb gymryd rhan?
Datrysiadau Cefnogol
Defnyddio gwybodaeth fel sail i drafodaethau a phenderfyniadau.
Gweithio gyda phartneriaid i ddeall cydweithredu posibl.
Sicrhau eglurder ynghylch yr hyn nad yw o fewn y cwmpas ond ymwybyddiaeth o bwy arall allai fod yn gwneud y rhan honno.
Cyngor doeth:
- Galluogi amser rheolaidd i siarad.
- Bod yn ddewr yn yr hyn rydyn ni’n dymuno ei wneud a’n rôl.
- Canolbwyntio



