Cwestiynau Trafod

  • Ydyn ni’n defnyddio mapio rhanddeiliaid yn effeithiol i flaenoriaethu rhanddeiliaid a phartneriaid a all ein helpu i gyrraedd ein cynulleidfaoedd targed?
  • Ydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth i wneud hyn? Ydyn ni wedi trefnu perthnasoedd allweddol? Ydi hyn yn fuddiol i’r ddwy ochr?
  • Ydyn ni’n deall yr her(iau) rydyn ni’n ceisio dod o hyd i ddatrysiad ar eu cyfer drwy gydweithredu?
  • Ydyn ni’n hyblyg ac yn canolbwyntio ar atebion i ddiwallu anghenion y grwpiau o bobl a nodwyd gan bartneriaid?
  • Ydyn ni’n cyd-greu datrysiadau?
  • Ydyn ni’n gweithio’n dda gyda’n gilydd? Sut gellir gwella hyn? Allwn ni wneud mwy o gydweithredu?

Datrysiadau Cefnogol

Blaenoriaethu partneriaid / sefydlu eglurder ar berthynas gydweithredol sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau sy’n helpu’r cynulleidfaoedd targed.

Treulio amser ar ddatblygu perthynas â rhanddeiliaid â blaenoriaeth a deall sut gallwn gydweithio.

Cynnwys partneriaid mewn tactegau i gyrraedd cymunedau amrywiol penodol a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gofyn am eu cyngor.

Galluogi mentrau sy’n seiliedig ar gyd-greu a chydweithredu.

https://www.activeblackcountry.co.uk/about-us/stakeholder-engagement/

https://www.womeninsport.org/wp-content/uploads/2020/02/Insight-Pack-Marketing-FINAL-designed-V3.pdf

Rhannwch y Stori Hon, Dewiswch Eich Platfform!