Cwestiynau Trafod

  • Oes gennym Hyrwyddwr Bwrdd ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac ydi hyn yn cael ei gyfathrebu’n eang?
  • Ydi’r arweinwyr wedi cwblhau hyfforddiant (perthnasol) mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant?
  • Oes gennym ni weithgor sy’n gyrru hyn yn ei flaen ar draws y sefydliad cyfan?
  • Ydi arweinwyr o fewn ein sefydliad yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i eiriol yn fewnol ac yn allanol dros gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant?
  • Ydi’r swyddi a manylebau’r swydd yn sôn yn benodol am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant?
  • Ydi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn eitem / trafodaeth reolaidd ar yr agenda yng nghyfarfodydd y Bwrdd a chyfarfodydd eraill ac oes cofnodion yn cael eu cyhoeddi?
  • Sut mae dal ein harweinwyr yn atebol am hybu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o fewn y sefydliad?
  • Ydi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan o’r system arfarnu a gwerthuso ar gyfer y Bwrdd a’r staff?

Datrysiadau Cefnogol

Adolygu swyddi a manylebau swyddi.

Cynnwys cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn arfarniadau rôl a gwerthusiadau Bwrdd.

Arolygon staff rheolaidd neu grwpiau ffocws wedi ymrwymo i’r pwnc hwn i gael cipolwg ar y statws.

Cynnal dadansoddiad o anghenion hyfforddi, cofnod a chynllun sy’n cynnwys cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer arweinwyr. Adolygu effaith hyfforddiant a rhannu’r hyn a ddysgwyd.

https://www.cyclinguk.org/sites/default/files/document/2020/10/diversity_champion_role.pdf

Rhannwch y Stori Hon, Dewiswch Eich Platfform!