Yn Chwaraeon Cymru, rydym yn cydnabod ac yn dathlu amrywiaeth y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, sy’n cwmpasu ystod o wahaniaethau gan gynnwys oedran, ethnigrwydd, cenedligrwydd, rhywioldeb, hunaniaeth rhywedd, a llawer o nodweddion eraill. Ein hymrwymiad diffuant yw gwella ein hiaith yn barhaus er mwyn sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys a’u gwerthfawrogi, waeth a ydynt wedi’u geni yng Nghymru neu wedi’i dewis fel eu cartref. Rydym yn cydnabod bod iaith yn offeryn deinamig ac esblygol sy’n llunio ein cyfathrebu a’n cysylltiadau, ac rydym yn ymdrechu i gadw i fyny â’r newidiadau hyn. Wrth i ni ehangu ein dealltwriaeth o’n gilydd yn barhaus, mae ein dealltwriaeth o iaith yn tyfu, gan arwain at rai geiriau’n mynd yn hen ffasiwn. Mae gan iaith bŵer aruthrol, a gall fod yn gatalydd wrth newid agweddau ac ymddygiadau. Mae’r canllaw hwn yn adlewyrchiad o’r syniad hwn, gan gynnig awgrymiadau ar ddefnydd iaith ac enghreifftiau o’r hyn i’w osgoi. Fodd bynnag, yr agwedd bwysicaf yw cymhwyso egwyddorion iaith gynhwysol yn gyson a chynnal agoredrwydd i ddysgu a dad-ddysgu. Rydym yn croesawu unrhyw awgrymiadau a phob addasiad, gan fod y canllaw hwn yn endid byw, yn adlewyrchu ein cymuned fywiog.

Rhannwch y Stori Hon, Dewiswch Eich Platfform!