Mae pob adran yn Nofio Cymru yn gyfrifol bellach am eu rôl yn ymgorffori cynhwysiant, sy’n gysylltiedig â fframwaith Cynnwys, o lawr gwlad i lefel elitaidd. Mae hyn wedi gwella cynrychiolaeth ar y llwybr perfformiad (e.e., integreiddio para-nofwyr), ac wedi bod yn gatalydd i bartneriaethau newydd ac arferion cynhwysol mewn meysydd fel Dysgu Nofio a Nofio Ysgolion. Mae’r dull system gyfan yma o weithredu gyda Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn enghraifft nodedig i bartneriaid eraill yn y sector ddysgu oddi wrthi. Mae’r cysylltiadau sydd wedi’u gwneud gyda’r Gymdeithas Nofio ar gyfer Pobl Dduon wedi arwain hefyd at aelod newydd o’r Bwrdd ar gyfer Nofio Cymru.

Rhannwch y Stori Hon, Dewiswch Eich Platfform!