Mae ymchwil newydd yn dangos bod y rhaglen Set for Success yn darparu mwy na phum gwaith ei buddsoddiad mewn gwerth cymdeithasol drwy ddatblygiad ieuenctid. Yn ddiweddar, cyhoeddodd yr Youth Sport Trust dystiolaeth sy’n dangos yr Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) o raglen Set for Success. Mae’r dadansoddiad annibynnol yn dangos bod £5.63 o werth cymdeithasol yn cael ei gynhyrchu o bob £1 sy’n cael ei buddsoddi yn Set for Success, gan ddangos cyfraniad sylweddol y rhaglen at wella lles a chyfleoedd bywyd pobl ifanc.

Set for Success yw rhaglen genedlaethol flaenllaw Sefydliad Wimbledon sy’n cael ei gweithredu mewn partneriaeth â Barclays a’i chyflwyno gan yr Youth Sport Trust. Mae’r fenter arweinyddiaeth ieuenctid ddwys yma wedi cael ei chynllunio’n benodol i gefnogi pobl ifanc mewn cymunedau sy’n cael eu tanwasanaethu, a allai fod mewn perygl o beidio â chyflawni eu potensial llawn am amrywiaeth o ffactorau. Mae’r cyfranogwyr yn datblygu sgiliau bywyd a chyflogadwyedd hanfodol drwy sesiynau mentora sy’n cael eu cyflwyno gan athletwyr ysbrydoledig.

Am ragor o wybodaeth am yr ymchwil cliciwch yma.
Am ragor o wybodaeth am y rhaglen cliciwch yma a / neu cysylltwch â SFS@youthsporttrust.org

Menter Arweinyddiaeth Ieuenctid yn Sicrhau Effaith Gymdeithasol Gwerth £4 Miliwn yn ystod y Flwyddyn Gyntaf: https://www.youthsporttrust.org/research-listings/research/set-for-success-evaluation

Rhannwch y Stori Hon, Dewiswch Eich Platfform!